Baner annibyniaeth Catalwnia yn y Pyreneaid (Llun Golwg360)
Fe fydd protest yn cael ei chynnal yn Aberystwyth fory i gefnogi hawl pobol Catalwnia i gynnal refferendwm annibyniaeth.

Llywydd y Cyulliad, Elin Jones, fydd un o’r siaradwyr wrth i’r cyfarfod wrthwynebu gweithredoedd Llywodraeth Sbaen sy’n ceisio atal y bleidlais.

“Hawl sylfaenol pob cenedl yw penderfynu ei dyfodol ei hun yn ddemocrataidd,” meddai trefnwyr y digwyddiad yng nghanol y dre’ am un o’r gloch ddydd Sadwrn.

Nicola Sturgeon – angen cyfaddawd

Mae Prif Weinidog yr Alban hefyd wedi cefnogi bwriad Llywodraeth Catalwnia i gynnal y refferendwm, er fod hynny’n anghyfreithlon yn ôl Llywodraeth Sbaen.

Mae degau o wleidyddion ac arweinwyr lleol wedi cael eu harestio oherwydd eu bwriad i ganiatáu’r bleidlais yn eu hardaloedd.

Yn ôl Nicola Sturgeon, mae angen trafodaeth rhwng y llywodraeth darganoledig ym Marcelona a’r llwyodraeth ganol ym Madrid.

Roedd y cytundeb rhwng llywodraethau’r Alban a’r Deyrnas Unedig yn 2014 i ganiatáu refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn fodel o’r ffordd i weithredu, meddai.