Mahdi Rahimi (llun o'i gyfri Facebook)
Mae un o’r tri dyn o Gasnewydd a gafodd ei arestio ar ôl ymosodiad Parson’s Green wedi cael ei ryddhau heb ei gyhuddiad.

Ond mae dau arall o’r ddinas yn parhau yn y ddalfa ac mae Heddlu Llundain wedi cael yr hawl i’w holi tan ddydd Mawrth.

Y dyn 48 oed sydd wedi ei ryddhau, ynghyd â dyn arall o Lundain, a’r ddau ddyn iau – 25 a 30 oed – sy’n parhau i gael eu holi.

Mae llanc 17 oed o Lundain hefyd yn y ddalfa o hyd, ynghyd â dyn 18 oed a gafodd ei arestion yn Dover.

Chwilio dau dŷ

Mae’r heddlu hefyd yn dal i chwilio dau dŷ yng Nghasnewydd – ac mae un o’r rheiny’n eiddo i asiantaeth o’r enw Clearspring Ready Homes sy’n gosod tai i geiswyr lloches.

Y dyn 25 oed o Gasnewydd yw Mahdi Rahimi, a gafodd ei arestio mewn tŷ arall yn y ddinas. Ei lysenw’n lleol yw Bilal.