Sian Lloyd
Mae’r gyflwynwraig a’r ferch dywydd, Siân Lloyd, wedi denu tipyn o sylw a chydymdeimlad ar-lein wedi iddi bostio llun ohoni’i hun yn yr ysbyty â chast am ei braich.

Mae’n debyg ei bod wedi gorfod cael triniaeth mewn ysbyty yn Cheltenham ar ôl iddi dorri ei garddwrn tra’n “rasio” yn erbyn y ffermwr mynydd, Gareth Wyn Jones, a’i ffrind Stifyn Parri ar set rhaglen newydd.

Yn ôl sylw gan Sian Lloyd ar Facebook, lle mae’r post gwreiddiol wedi ennyn ymatebion cydymdeimladol gan 119 o bobol, mae hi’n disgwyl cael plât yn ei braich fory.

Postiodd Siân Lloyd y llun a neges ar Twitter hefyd fore ddoe (dydd Mercher, Medi 20) gyda’r neges: “Diolch o galon i staff yr ysbyty am eu gofal ardderchog #ArddwrnWediTorri #Llawdriniaeth.”

Gan ymateb i sylwadau ar ei phost Twitter dywedodd: “[Wedi] rhedeg mewn wellies ar set a chwympo. Fi & @1GarethWynJones & @Stifyn1 ar fai! #TriawdYBuarth xxx”

Bellach mae Siân Lloyd yn gwneud gwaith teledu yn yr Unol Daleithiau ac yn teithio’r byd, ond yn ôl y cyflwynydd mi fydd yn rhaid “canslo llawer o ffilmio yn y dyfodol agos” yn sgil yr anaf. 

Mae golwg360 wedi cysylltu â’r cyflwynwyr â chynhyrchwyr y rhaglen, Cwmni Da, am sylw, ond doedden nhw ddim yn awyddus i ymateb.