Ddoe, fe gyhuddodd Neil McEvoy y Prif Weinidog, Carwyn Jones, o gamarwain y cyhoedd ar dri phwnc – Cynlluniau Datblygu Lleol; mynediad lobïwyr at weinidogion y Llywodraeth; a’r mater o werthu tir am lai na phris y farchnad, gan gyfeirio’n benodol at ardal Llys-faen, Caerdydd.

Ac yn y Siambr brynhawn dydd Mercher, fe gyhuddodd y Llywodraeth Lafur o ganiatáu i wastraff niwclear o atomfa Hinkley Point C yn Lloegr gael ei ddympio yn y dyfroedd ger Caerdydd, heb asesiad effaith amgylcheddol.

“Yr hyn dw i’n mynd i wneud dros yr wythnosau nesaf yw amlinellu sut dw i’n mynd i ddal y Llywodraeth i gyfrif fel Aelod Annibynnol o’r Cynulliad,” meddai Neil McEvoy wrth newyddiadurwyr  yn ei gynhadledd i’r wasg ei hun ddydd Mercher (Medi 20).

Dywed mai ei syniad ef oedd cynnal ymchwiliad i’r Prif Weinidog, pan gafodd ei holi os oedd wedi codi’r mater gyda grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad. Mae wedi’i wahardd ar hyn o bryd, yn dilyn ymchwiliad gan gadeirydd y blaid.

“Fy syniad i yw ymchwiliad, ac mae’n rhan o’r rhaglen y hoffwn ei gosod dros yr wythnosau nesaf. Mae’n fusnes fel arfer, mae gen i bethau dw i eisiau eu cyflawni dros yr wythnosau nesaf, ac un o’r rheiny yw dal y Prif Weinidog i gyfrif.”

Beth am ei waharddiad?

 “Yn amlwg, dw i eisiau bod yng ngrŵp Plaid Cymru eto,” meddai Neil McEvoy, “ond yr hyn dw i’n gorfod gwneud yw dal y Llywodraeth i gyfrif, a dyna be’ dw i’n ei wneud.

“Dw i wastad yn hapus i ystyried pethau gyda fy nghydweithwyr ac wedyn dod at benderfyniad yn y dyfodol.”

Ond dim ymddiheuriad…

Er hynny, mae yna awgrym gan Neil McEvoy na fydd yn ymddiheuro am fynd yn erbyn polisi ei blaid ar ‘Hawl i Brynu’, ac mae’n mynnu nad oes ganddo unrhywbeth i ymddiheuro yn ei gylch.

“Bydda’ i’n parhau i weithio gyda chydweithwyr [o fewn] Plaid Cymru, dw i’n aelod ffyddlon o’r Blaid,” ychwanegodd.

Herio Leanne?

Mae Neil McEvoy yn aelod sy’n rhannu barn o fewn Plaid Cymru – mae ganddo gefnogaeth gan griw yng Nghaerdydd, ond mae carfan arall o’r blaid wedi ei gyhuddo o wneud sylwadau sydd yn mynd yn groes i’w hegwyddorion.

Mae’r holl gwympo mas rhyngddo ef a’r grŵp yn sicr o godi ei broffil, ac mae hefyd wedi bod yn llafar iawn yn erbyn unrhyw gydweithio y mae Plaid Cymru yn ei wneud â’r Blaid Lafur.

Pan fydd cyfle yn dod y flwyddyn nesa’ i herio arweinyddiaeth Leanne Wood, os bydd Neil McEvoy yn dal i fod yn aelod o Blaid Cymru, mae’n debygol iawn y gwelwn gais ganddo fe am y brif swydd.

A bydd ganddo fwy o gefnogaeth nag y mae rhai o fewn Plaid Cymru yn ei ystyried.