Mae disgwyl i ddyn 26 oed o ardal Treganna ymddangos gerbron ynadon Caerdydd heddiw, wedi ei gyhuddo o drywanu plismon yn y ddinas neithiwr.

Toc wedi 10yh, fe gafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Casnewydd yn y brifddinas.

Fe gafodd yr heddwas ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru, lle derbyniodd driniaeth. Dydi ei glwyfau ddim yn cael eu hystyried yn rhai sy’n bygwth ei fywyd.

Mae Abdirahman Hashi, 26, wedi’i gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant, ac o anafu bwriadol.