Carl Sargeant
Does gan wledydd y Deyrnas Unedig ddim problem o ran mewnfudo, yn ôl yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Dywedodd mewn trafodaeth yn y Senedd yng Nghaerdydd brynhawn Mercher nad yw mewnfudo ar raddfa eang yn broblem, ac mai’r Ymerodraeth Brydeinig oedd yn gyfrifol am wreiddiau caethwasiaeth.

Fe ddaeth ei sylwadau ar ôl i Aelod Cynulliad UKIP tros Dde Ddwyrain Cymru, David Rowland godi mater caethwasiaeth fodern a giangiau o fewnfudwyr yng Nghymru.

Dyweddodd Carl Sargeant fod mewnfudo’n digwydd ar raddfa eang, gan ychwanegu mai’r Ymerodraeth Brydeinig oedd ar fai am gaethwasiaeth yn y lle cyntaf.

Caethwasiaeth yn rhemp”

“Yn ôl y Gweinidog Llafur Carl Sargeant, mae caethwasiaeth yn y Deyrnas Unedig dros y ddau ddegawd diwethaf o ganlyniad i weithredoedd Prydain yn y 1700au,” meddai David Rowland.

“Mae’n anghofio sôn mai Prydain oedd wedi pasio’r Ddeddf Wrth-Gaethwasiaeth a bod caethwasiaeth yn rhemp ar draws y byd cyn i’r Ymerodraeth Brydeinig gael ei sefydlu.

“Dim ond ers i wledydd dwyrain Ewrop gael eu derbyn i’r Undeb Ewropeaidd a chanlyniadau mewnfudo ar raddfa eang y mae’r wlad hon wedi gweld cymaint o ecsbloetio ar fewnfudwyr sy’n gweithio gan giangiau o fewnfudwyr.

“Bellach, mae gennym wlad lle mae caethwasiaeth neu led-gaethwasiaeth yn rhemp!”

Cyhuddodd y Blaid Lafur o anwybyddu agweddau negyddol ar fewnfudo “hyd yn oed pan fo’r ffeithiau’n dangos yn glir fod yna effaith negyddol”.