Neil McEvoy (Llun: Plaid Cymru)
Mae Neil McEvoy, yr Aelod Cynulliad sydd wedi’i wahardd o Blaid Cymru am y tro, wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o gamarwain Aelodau’r Cynulliad.

Mae ei gŵyn yn ymwneud â thri pheth 

– Cynlluniau Datblygu Lleol; 

– mynediad lobïwyr at weinidogion y Cynulliad;

– a’r mater o werthu tir am lai na phris y farchnad, gan gyfeirio’n benodol at ardal Llys-faen yng Nghaerdydd.

Mewn datganiad ac mewn cynhadledd i’r wasg fore heddiw (dydd Mercher, Medi 20), dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru fod yn rhaid “disgwyl a mynnu’r safonau uchaf gan y Prif Weinidog”.

Ond ychwanegodd fod Carwyn Jones “wedi cwympo islaw’r fath safonau” a’i fod ef am “weld gweithredu” yn sgil hynny.

Cynlluniau Datblygu Lleol

Fe gyfeiria Neil McEvoy yn ei ddatganiad ar sylwadau gan y Prif Weinidog ar Orffennaf 12 y llynedd, pan ddywedodd “nad oes gan lobïwyr masnachol fynediad at Weinidogion Cymru”. 

“Mae’n anodd credu, ar Dachwedd 1, roedd gan Carwyn Jones safbwynt wahanol ac fe ddywedodd ei fod yn golygu nad oes ganddyn nhw gyfarfodydd ffurfiol â lobïwyr, ar ôl i fi gyflwyno tystiolaeth o fynediad,” meddai Neil McEvoy.

Wrth gyfeirio at Gynlluniau Datblygu Lleol, mae Neil McEvoy yn tynnu sylw at sylwadau’r Prif Weinidog “nad yw e byth yn gwneud sylw am gynlluniau datblygu lleol” – gan ychwanegu ei fod e wedi cael ei ddyfynnu gan bapur newydd y South Wales Echo ar Fedi 13 yn trafod cynllun.

“Ni dderbyniodd y South Wales Echo gwyn am unrhyw gamddyfynnu,” meddai Neil McEvoy.

Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wedi dweud yn y gorffennol nad oes ganddi bryderon am y drefn lobïo, er gwaethaf amheuon Neil McEvoy. Mae hi hefyd wedi cadarnhau ei bod wedi derbyn cais i ymchwilio i’r gŵyn hon.

Llys-faen

Mae’r datganiad yn mynd yn ei flaen i dynnu sylw at Carwyn Jones yn “ceisio trosglwyddo’r bai yn anonest am gynllun cywilyddus tir Llys-faen lle collon ni, y cyhoedd, £39m”.

Fe wnaeth hynny, meddai, drwy ddatgan, “yn y lle cyntaf, rhaid i ni fod yn ofalus, oherwydd roedd Gweinidogion o’i blaid ei hunan ynghlwm hefyd”. 

“Mae’n rhaid bod y Prif Weinidog yn ymwybodol iawn fod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol wedi casglu nad oedd Gweinidogion Plaid ynghlwm yn y gwerthiant,” meddai Neil McEvoy. “Cafodd y penderfyniad ei wneud yn ystod oes ei Lywodraeth Lafur e.”

Cafodd y penderfyniad tros Lys-faen ei wneud gan y Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio pan oedden nhw’n ymgynghori â Gweinidogion Plaid Cymru. Cafodd y Gronfa ei sefydlu yn 2010, a Phlaid Cymru’n gyfrifol amdani cyn i Huw Lewis gael ei benodi’n Weinidog Tai ac Adfywio ym mis Mai 2011.

“Rwy’n gofyn bod y Prif Weinidog yn destun ymchwiliad am gamarwain y Senedd dro ar ôl dro wrth ateb fy nghwestiynau. Dyw’r cyhoedd yn haeddu dim byd llai,” meddai.

Cwyno i’r Llywydd

Dywed Neil McEvoy wrth golwg360 ei fod e wedi cwyno wrth Lywydd y Cynulliad, Elin Jones ddydd Gwener diwethaf (Medi 15), a’i fod yn bwriadu anfon neges ati heddiw yn rhoi diweddariad o’r sefyllfa. 

Eglurodd ei fod yn bwriadu galw am gyflwyno Côd Ymddygiad ar gyfer y Prif Weinidog sy’n “gallu dweud beth mae e eisiau” heb fod neb yn ei sgriwtineiddio.

Ychwanegodd ei fod yn bwriadu “parhau i ddwyn y Llywodraeth i gyfri” er iddo gael ei wahardd, a’i fod yn bwriadu codi mater amgylcheddol yn y Senedd y prynhawn yma.

Ymateb Carwyn Jones

Wrth ymateb i sylwadau Neil McEvoy, dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones wrth golwg360: “Mae’n rhaid bod Neil McEvoy yn credu bod y cyhoedd yn dwp.

“Mae’r ymosodiad rhyfedd hwn yn amlwg yn ddim byd ond ymgais despret gan Neil McEvoy i dynnu sylw oddi ar y sylw negyddol yn y cyfryngau sy’n deillio o’r ail dro iddo gael ei ddiarddel o Blaid Cymru eleni, y tro cyntaf am fwlio staff a nawr am fwlio’i gydweithwyr ym Mhlaid Cymru yn y Cynulliad.”