Alun Davies
Mae Gweinidog y Gymraeg yn bwriadu teithio o gwmpas Cymru dros yr wythnosau nesaf i glywed barn pobol ar y Papur Gwyn ar yr iaith.
Fe gafodd y Papur Gwyn ei lansio ar faes y brifwyl ym Môn fis diwethaf, ac un o’i brif argymhellion yw sefydlu Comisiwn y Gymraeg a fyddai’n disodli rôl Comisiynydd y Gymraeg.
“…Mae gan bawb ran i’w chwarae, ac rydym am i bawb sydd â diddordeb yn yr iaith gyfrannu i’r drafodaeth hon,” meddai Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg.
Er hyn, o’r pum cyfarfod sydd wedi’i drefnu, dim ond un sy’n cael ei gynnal yn y gogledd, sef y cyfarfod yn Llandudno ar Hydref 2.
“Iaith fyw”
Ymhlith argymhellion eraill y Papur Gwyn mae hybu mwy o ddefnydd o wasanaethau Cymraeg a symleiddio prosesau Safonau’r Gymraeg.
Nod y Mesur yw cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Rydyn ni’n gwybod bod angen consensws a chryfder democrataidd y tu ôl i bolisi iaith. Gyda’n gilydd, drwy ymegnïo o’r newydd, ac addasu i fyd sy’n newid yn barhaus, fe all yr iaith Gymraeg dyfu – yn iaith fyw i bawb sy’n ein huno fel cenedl,” ychwanegodd Alun Davies.
Y cyfarfodydd cyhoeddus
· Abertawe – Medi 21, Stadiwm Liberty, 1.30 – 4.30
· Llandudno – Hydref 2, Venue Cymru, 1 – 4
· Merthyr Tudful – Hydref 16, Canolfan Soar, 10 – 1
· Caerdydd – Hydref 19, Stadiwm Swalec, 10 – 1
· Aberystwyth – Hydref 20, Canolfan y Celfyddydau, 1 – 4