Mae dyn wedi cael ei arestio yng Nghymru mewn cysylltiad ag ymosodiad brawychol ar drên yn Llundain ddydd Gwener diwethaf, Medi 15.

Cafodd y dyn 25 oed ei ddal yn ystod cyrch gwrth-frawychiaeth yng Nghasnewydd ychydig wedi 7.00yh ddoe (dydd Mawrth, Medi 20).

Cangen o’r Heddlu Metropolitanaidd, ynghyd â Heddlu Gwent ac Uned Gwrth-Frawychiaeth Cymru, gynhaliodd y cyrch.

Mae dau unigolyn arall – Yahyah Farroukh, 21, a dyn 18 oed – yn parhau yn y ddalfa yn dilyn yr ymosodiad bom yng ngorsaf drenau tanddaearol Parsons Green.

“Ymchwiliadau eang”

“Mae hyn yn parhau i fod yn ymchwiliad sydd yn datblygu’n gyflym,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Met. “Mae tipyn o waith wedi ei gyflawni ers ymosodiad ddydd Gwener.

“Bellach, mae gennym dri dyn yn y ddalfa ac mae’r chwiliadau yn parhau ym mhob cyfeiriad. Mae ditectifs yn cynnal ymchwiliadau eang er mwyn dod o hyd i’r ffeithiau.”