Elis Dafydd, yn ennill Y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili 2015,
Mae myfyriwr doethur o Brifysgol Bangor yn un o’r 400,000 sydd wedi’u heffeithio gan deithiau sydd wedi’u canslo gan gwmni Ryanair.

Fe fydd Elis Dafydd, sy’n  wreiddiol o Drefor, yn dechrau ar ei daith i Lublin yng Ngwlad Pwyl heno i gyflwyno papur ar ei ymchwil i lenyddiaeth John Rowlands mewn cynhadledd academaidd.

Esboniodd ei fod wedi trefnu’r daith allan gyda chwmni Wizz Air, ac wedi archebu taith yn ôl gyda chwmni Ryanair ddydd Sadwrn am £12.

Ond fe gafodd wybod ddydd Llun fod y daith yn ôl wedi’i gohirio, a bu’n rhaid iddo aildrefnu gyda chwmni Wizz Air am gost ychwanegol o £150.

‘Ofnadwy o anghyfleus’

“Dw i’n deall rŵan fod gan Ryanair gyfrifoldeb statudol i ddod o hyd i daith imi efo un o’u cystadleuwyr, ond dw i’n mynd heno, ac mae o’n fyr-rybudd,” meddai Elis Dafydd wrth golwg360.

 

“Os oes 400,000 o bobol wedi’u heffeithio, mae ’na dipyn yn mynd i ffonio Ryanair dros y dyddiau nesaf, a doedd gen i ddim o’r amser.”

“Roedd yn rhaid imi brynu flight arall ar amser ofnadwy o anghyfleus am bris llawer mwy na’r gwreiddiol.”

‘Dychryn’

Fe fydd y bardd sydd wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth ynghyd ag ennill Cadair yr Urdd yn 2015 yn cyflwyno papur ar nofel, Ienctid Yw ‘Mhechod, gan John Rowlands fore ddydd Iau.

“Beth oedd yn fy nychryn i oedd y gallwn fod allan yng Ngwlad Pwyl heb ffordd adref, felly mewn ffordd dw i’n ddiolchgar fod y flight wedi’i chanslo cyn imi fynd fel bod gen i amser i wneud trefniadau.”

Ryanair

  • Mae Ryanair wedi cyhoeddi rhestr lawn o’r teithiau y maen nhw’n bwriadu eu canslo dros yr wythnosau nesaf wrth i beilotiaid gymryd y gwyliau sy’n ddyledus iddyn nhw.
  • Mae’r cwmni’n dweud y bydd modd i gwsmeriaid gael cynigion am deithiau eraill neu iawndal, ac mae disgwyl y bydd Ryanair yn wynebu costau iawndal o hyd at £17.7miliwn.