Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae’n ymddangos bod Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi blocio sawl ffigwr adnabyddus ym myd gwleidyddol Cymru, ar wefan Twitter.

Mewn negeseuon ar y wefan ddydd Sadwrn (Medi 16) dywedodd y Newyddiadurwr, Vaughan Roderick, a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru, Arfon Jones, eu bod wedi’u “blocio.”

“Dw i newydd gael fy mlocio ar Twitter gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru @AlunCairns. Croeso i Uzbekistan,” meddai Vaughan Roderick.

“Dw i hefyd [wedi cael fy mlocio],” meddai Arfon Jones yn ei neges ef gan ymateb i’r newyddiadurwr.

“Yn amlwg dydy [Swyddfa Ysgrifennydd Cymru] ddim eisiau clywed am ddaliadau [Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedda] sydd heb eu datganoli.”

Mae blocio cyfrif ar Twitter yn rhwystro’r unigolyn sydd wedi ei flocio rhag ei ‘ddilyn’ neu gyfathrebu’n gyhoeddus gyda’r blociwr.

Ymateb yr Ysgrifennydd

Ymatebodd Alun Cairns, i neges Vaughan Roderick trwy ail-drydar neges gan y cartwnydd, Mumph – neges  oedd yn cyfeirio at lyfr newydd y newyddiadurwr sef ‘Pen ar y Bloc’.

“Croeso i baranoia Cymru, neu ai Vaughan sy’n chwilio am gyhoeddusrwydd â’i lyfr newydd,” meddai’r neges gan Mumph.

Mae golwg360 wedi gofyn i Alun Cairns am ymateb, ac ar ddeall fod yr anghydfod rhwng Alun Cairns a Vaughan Roderick bellach wedi dod i ben.

Doedd Vaughan Roderick ddim am roi sylw pellach. Dywedodd llefarydd ar ran Arfon Jones bod y comisiynydd wedi cael ei flocio ers cyn iddo gael ei ethol.