Huw Edwards yn siarad a Eluned Davies o Halen Môn (Llun: S4C)
Mae un o reolwyr prosiect gyda chwmni Halen Môn ym Mrynsiencyn wedi mynegi pryder y gallai eu hallforion “ostwng yn sylweddol” yn sgil Brexit.

Yn ôl Eluned Davies, mae 30% o gynnyrch Halen Môn yn cael ei allforio a mwy na hanner yn mynd i wledydd Ewropeaidd, gan gynnwys Sbaen a’r Eidal.

Ond petai’r gwledydd hynny’n wynebu tariffau ychwanegol i fewnforio cynnyrch o wledydd Prydain, dywedodd Eluned Davies y byddai’r gwledydd yn “ail-feddwl cyn masnachu â chwmnïau Prydeinig.”

Daw ei sylwadau wrth siarad â’r newyddiadurwr Huw Edwards ar gyfer rhaglen arbennig yn taflu trem yn ôl ar ugain mlynedd ers datganoli yng Nghymru gan ystyried yr heriau yn sgil Brexit.

 

‘Y gwaethaf a’r gorau’

“Beth rydan ni’n ei wneud ydi paratoi am y gwaethaf a gobeithio am y gorau, achos nid jyst gwledydd Ewrop rydan ni’n colli ond mae tua 50 o wledydd eraill sydd â chytundeb marchnad am ddim efo Ewrop,” meddai Eluned Davies.

Er hyn mae’n cydnabod “cefnogaeth ariannol a gwleidyddol” y Cynulliad Cenedlaethol gan ddweud y byddai Halen Môn “wedi ffynnu ond mae datganoli wedi gwneud pethau’n haws.”

Yn rhan o’r rhaglen hefyd mae sylw i ddyfodol marchnad cig oen Cymru, swyddi gwaith dur Port Talbot, addysg Gymraeg yng Nghasnewydd a’r gwasanaeth iechyd yn y gogledd.

Mi fydd Huw Edwards: Datganoli 20 yn cael ei darlledu nos Fawrth (Medi 19) am 9.30yh.