Erbyn haf y flwyddyn nesaf fe fydd gwaharddiad ar ysmygu ar diroedd ysbytai ac ysgolion yng Nghymru yn ogystal ag ar feysydd chwarae cyhoeddus.

Daw hyn yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru ‘Gweithredu ar Reoli Tybaco’ ddeng mlynedd ers cyflwyno’r gwaharddiad ysmygu yng Nghymru.

Erbyn 2020, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gostwng nifer y bobol sy’n ysmygu i 16%.

Maen nhw’n nodi fod mwy na 5,000 o farwolaethau a chost o £302m i’r gwasanaeth iechyd bob blwyddyn oherwydd clefydau yn ymwneud ag ysmygu.

Yn rhan o’r cynllun mae’r Llywodraeth am annog a helpu pobol i droi at y gwasanaethau perthnasol i roi’r gorau i ysmygu.

‘Iechyd y genedl’ 

“Nod Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco 2017-2020 yw gwneud y gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu, sy’n cael eu darparu gan weithwyr iechyd proffesiynol, yn fwy hygyrch,” meddai Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd.

“Drwy leihau nifer y bobol sy’n ysmygu bydd nifer y bobol sy’n dod i gysylltiad â mwg ail law hefyd yn gostwng,” meddai.

Ychwanegodd Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, y bydd gostwng lefelau ysmygu Cymru “o fantais nid yn unig i iechyd y genedl, ond hefyd yn helpu i leihau rhywfaint o’r pwysau sydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

Ffigurau

  • Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016/17 roedd 19% o oedolion yn ysmygu.
  • Yn 2005/6 y ganran oedd 25%, ac mae hynny’n curo’r targed gafodd ei osod gan Lywodraeth Cymru i leihau’r ganran i 20% erbyn 2016.