Llun: PA
Mae merched ifanc o ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o ddioddef trais na merched o gymunedau cyfoethog, yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd.

Bu’r ymchwilwyr yn cyfweld â merched rhwng 14 a 16 oed yn ne Cymru, a gwnaethon nhw ddarganfod bod merched o gefndiroedd tlotach chwe gwaith yn fwy tebygol o wynebu trais.

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod merched o gefndiroedd llai breintiedig yn teimlo nad yw eu rhieni yn ymddiried ynddyn nhw, ac yn gosod eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus.

Hefyd mae’n debyg bod merched cyfoethocach yn tueddu i gael gafael ar eu halcohol trwy eu rhieni tra bod merched o gefndiroedd difreintiedig yn cael alcohol o sawl ffynhonnell.

Casgliadau

“Mae ein hymchwil yn awgrymu bod merched sydd yn mynd i ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig yn dueddol o gredu nad yw eu rhieni yn ymddiried ynddyn nhw, a’u bod yn llym,” meddai Prif Awdur yr astudiaeth, yr Athro Jonathan Shepherd.

“Mae hyn yn golygu bod y merched ifanc yn llai gonest â’u rhieni o ran eu gweithgareddau ac o ganlyniad, maen nhw’n fwy tebygol o fod mewn sefyllfaoedd lle gallan nhw wynebu trais.”