Hanner Marathon Caerdydd (llun o wefan y ras)
Mae ymchwil yn cael ei gynnal i ddeall sut mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd yn teithio yno.

Mae trefnwyr y ras, Run 4 Wales, wedi cydweithio ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i geisio lleihau ôl-troed carbon y digwyddiad.

Mae’r Hanner Marathon sy’n cael ei gynnal ar Hydref 1 fel arfer yn denu tua 25,000 o redwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Teithio

Yn ystod Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd, byddwn yn edrych yn bennaf ar y modd mae gwylwyr a rhedwyr yn teithio i’r digwyddiad, a faint o arian maen nhw’n ei wario yn y ddinas,” meddai Andrea Collins o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd.

Mae hi wedi cynnal astudiaethau tebyg ar arferion teithio pobol adeg Rownd Derfynol Cwpan yr FA yng Nghaerdydd ym mis Mehefin yn ogystal â phencampwriaethau Rygbi’r Chwe Gwlad a Gŵyl y Gelli.

“Bydd trefnwyr y ras, Run 4 Wales, a’r Brifysgol yn gallu defnyddio canlyniadau’r ymchwil er mwyn canfod y ffyrdd y gellir annog rhedwyr a gwylwyr i deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy,” meddai.

“Y nod yn y pen draw yw lleihau effaith amgylcheddol y digwyddiad yn 2018.”