Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru Llun: PA
Mae Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru am weld ystafelloedd cyffuriau diogel yn cael eu treialu yng ngogledd Cymru.

Mewn adroddiad mae Arfon Jones yn nodi ei fod yn “gobeithio cynnal peilot” o’r cyfleuster yn dilyn cyhoeddi adroddiad gan banel annibynnol.

O fewn yr ystafelloedd yma, mi fyddai modd i bobol chwistrellu cyffuriau anghyfreithlon dan arolygiaeth staff meddygol.

Mae Arfon Jones yn nodi ei fod yn “credu’n gryf” y dylai pobol sy’n gaeth i gyffuriau gael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Iechyd, yn hytrach na chael eu trin fel “troseddwyr” gan yr heddlu.

“Awyddus iawn”

“Dw i’n awyddus iawn i gynnal peilot o’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘gyfleuster chwistrellu diogel’ mewn ardaloedd o ddefnydd cyffuriau problemus,” meddai Arfon Jones yn yr adroddiad.

“Mantais y cyfleusterau yma yw eu bod nhw’n lleihau’r nifer o ‘farwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau’ ac yn helpu atal pryderon am droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau lleol.”