Tafarn Sinc, Preseli
Bydd cymuned yn Sir Benfro sydd yn ymgyrchu i gadw eu tafarn leol yn agored, yn cynnal cyfarfod cyhoeddus heno.

Mae Tafarn Sinc ym mhentref Rhos-y-bwlch ger Maenclochog wedi bod ar werth ers mis Ionawr a hyd yma mae Cymdeithas Tafarn Sinc wedi llwyddo i godi £130,000.

Nod y grŵp yw codi £295,000 erbyn Hydref 28 pan fydd y perchnogion presennol, Hafwen a Brian Davies, yn gadael wedi 25 mlynedd wrth y llyw.

Mae modd i aelodau’r cyhoedd gyfrannu at yr ymgyrch trwy brynu cyfranddaliadau yn y dafarn sy’n werth £200, neu trwy ymuno â’u cynllun i gyfoedion gan gyfrannu £5,000.

Bydd y cyfarfod yn cael ei chynnal yn Neuadd Maenclochog am 7.30yh nos Lun.