Ail Flwch Bad Achub Criccieth (Llun: Bad Achub Criccieth)
Mae swyddogion yng ngorsaf Bad Achub Cricieth wedi apelio am wybodaeth wedi i ddau flwch casglu arian gael eu dwyn.

Cafodd y blwch cyntaf ei ddwyn ar ddechrau’r mis, a llwyddodd lladron i gipio’r ail flwch o’r orsaf yn  Lôn Felin, Cricieth, ar Fedi 12.

Roedd y ddau flwch yn cynnwys rhoddion i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, sydd yn  helpu ariannu’r gwaith o achub bywydau ar y môr.

Mae swyddogion y bad achub ar ddeall fod yr ail flwch – blwch mawr glas – wedi’i lwytho i gar bach gwyn o gwmpas 1.10yh ar Fedi 12.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn ymchwilio i achos y blwch cyntaf.