Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Llun: Gwefan Alun Cairns)
Bydd pwerau’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn cynyddu yn dilyn Brexit, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Gan nodi 20 mlynedd ers y refferendwm o blaid sefydlu’r Cynulliad, mae Alun Cairns wedi lleisio’i farn am ddatblygiad datganoli yng Nghymru.

Mae’r gweinidog Cabinet o’r farn bod datganoli yng Nghymru wedi “datblygu cryn dipyn” a bod y Senedd bellach “wedi’i sefydlu fel rhan o’n tirwedd gyfansoddiadol.”

Wrth drafod y dyfodol mae Alun Cairns yn nodi ein bod “mewn cyfnod arall o newid” ac y bydd pwerau Cymru yn cynyddu wrth i bwerau ddychwelyd i Brydain o Ewrop yn dilyn Brexit.

 thrafodaethau’r mesur diddymu ar waith, mae nifer o wleidyddion yn pryderu gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig gipio pwerau rhag y gwledydd datganoledig, wrth iddyn nhw ddychwelyd o Ewrop.

“Cyfnod arall o newid”

“Rydym mewn cyfnod arall o newid i ddatganoli Cymru yn awr – datganoliad pwerau fydd yn dychwelyd pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Alun Cairns.

“Ers y dechrau rydym wedi bod yn glir mai cynnydd ym mhwerau’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru fydd canlyniad y broses.”