Y Cynulliad Cenedlaethol
Mae Cymru’n dathlu 20 mlynedd ers y refferendwm o blaid datganoli wnaeth arwain at sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd y Sefydliad Materion Cymreig ar y cyd â Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn cynnal digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd i nodi’r achlysur.

Ym Mae Caerdydd, mi fydd grŵp o bobol ifanc yn cael eu gwahodd i’r Senedd lle fyddan nhw’n cynnal sesiwn holi ac ateb â’r Llywydd, Elin Jones.

Hefyd mi fydd tîm allgymorth Adran Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn ymweld ag ysgolion yng Ngwynedd, Sir Gaerfyrddin a Chwm Cynon.

Yn ôl Elin Jones mae cefnogaeth am ddatganoli wedi “cynyddu’n sylweddol” ers y refferendwm, ac mae disgwyl i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, nodi ddydd Llun ein bod wedi “trawsnewid fel cenedl”.

Datganoli

Pleidleisiodd Cymru o blaid sefydlu’r Cynulliad ar Fedi 18 1997, gyda 50.3% o’r boblogaeth o blaid a 49.7% yn ei erbyn.

Ers y bleidlais honno mae pwerau’r Cynulliad wedi tyfu’n raddol yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a mesurau datganoli pellach yn 2011.

Mae Deddfau Cymru 2014 a 2017 wedi cynyddu pwerau’r Cynulliad ymhellach trwy drosglwyddo cyfrifoldebau deddfwriaethu dros 20 maes.

“Wedi trawsnewid fel cenedl”

“Ugain mlynedd ers datganoli rydym ni wedi trawsnewid fel cenedl” meddai Carwyn Jones. “Nid yn unig o ran ein democratiaeth ond yn fwy o ran ein hyder newydd.”

“Pob diwrnod dw i’n gweld cenhedlaeth newydd o bobol ifanc sydd yn ddi-ofn, addysgedig, wedi seilio yng Nghymru ac yn credu’n gryf bod y dyfodol yn perthyn iddyn nhw. Mae’r cyferbyniad â’r gorffennol yn anferthol. Roedd hi’n frwydr anodd ei hennill ac mae rhaid adeiladu arni.”

“Cynnydd Sylweddol”

“Mae cefnogaeth i ddatganoli a’r Cynulliad Cenedlaethol wedi cynyddu’n sylweddol yng Nghymru,” meddai’r Llywydd, Elin Jones.

“Ein blaenoriaeth ar gyfer y dyfodol yw sicrhau bod gennym senedd sydd mewn sefyllfa dda i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif; senedd sy’n gyfartal â’r seneddau eraill ledled y Deyrnas Unedig.”