Kirsty Williams (Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Fe fydd Kirsty Williams, unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn annerch cynhadledd ei phlaid yn Bournemouth heddiw.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Addysg Cymru ddweud wrth y blaid bod eu gweledigaeth i wella addysg yn cael ei weithredu yng Nghymru.

Fe fydd hi’n amlinellu’r hyn mae hi wedi ei gyflawni ers iddi dderbyn gwahoddiad Carwyn Jones i ddod yn Ysgrifennydd Addysg yn Llywodraeth Lafur Cymru ac mae disgwyl iddi ddweud hefyd bod codi safonau mewn ysgolion yn flaenoriaeth iddi.

“Nid yw’r blaid dros addysg,” mae disgwyl iddi ddweud yn ei haraith. “Ond gadewch i mi fod yn glir: ni fydd ein gwaith ni wedi’i gyflawni nes bod pob plentyn, POB plentyn, yn cael dechrau teg mewn bywyd. Dyna yw ein bwriad cenedlaethol. Dyna yw bwriad y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.”

Ychwanega: “Yn fy mlwyddyn gyntaf yn y swydd, mae pob penderfyniad, pob polisi, pobl blaenoriaeth wedi’i seilio ar godi safonau a chau’r bwlch rhwng disgyblion o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig.”

Colli arweinydd

Fe gollodd y blaid ei hunig Aelod Seneddol, Mark Williams, yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin a ddaeth yn sgil colledion mawr i’r blaid yn yr etholiadau lleol ym mis Mai.

Pan gollodd Mark Williams ei sedd, roedd hefyd yn golygu bod y  Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi colli ei harweinydd gan olygu bod Kirsty Williams wedi gorfod camu nôl i’r swydd roedd hi wedi ei gadael.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bellach yn ystyried newid y rheolau fel nad oes rhaid i’r arweinydd for yn Aelod Cynulliad nag yn Aelod Seneddol, gan olygu bod cyfle i gynghorwyr a rhai sy’n ymgyrchu dros y blaid.