Maes awyr Caerdydd (Llun: Wikipedia)
Mae mwy o bobol wedi defnyddio gwasanaeth bws Maes Awyr Caerdydd rhwng mis Mawrth ac Awst eleni, nac yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Fe ddefnyddiodd 86,000 o bobol y gwasanaeth, sydd yn gynnydd o 15% o gymharu â llynedd.

Mae dros hanner miliwn o deithwyr wedi defnyddio gwasanaeth bws T9 y maes awyr ers iddo gael ei gyflwyno ym mis Gorffennaf 2013.

“O nerth i nerth”

“Maes Awyr Caerdydd yw un o’r meysydd awyr sy’n tyfu cyflymaf yn y DU ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Edrychaf ymlaen at weld T9 yn parhau i fod yn rhan o’r hyn y mae Cymru yn ei gynnig, gan adeiladu ar y nodweddion cadarnhaol hyn a hwyluso hyd yn oed mwy o deithiau i filoedd dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”