Cerys Matthews sy'n hyrwyddo'r ŵyl
Mae’n rhaid i bobol ddechrau sylweddoli bod yna “werth masnachol i ddefnyddio’r Gymraeg”, yn ôl arbenigwr digidol sydd yn gyfrifol am yr Awr Gymraeg ar Twitter.

Mae Huw Marshall wedi mynegi siom nad oes Cymraeg ar ffrwd Twitter gŵyl ‘The Good Life Experience’, sy’n cael ei hyrwyddo gan Cerys Matthews.

Caiff yr ŵyl  ei chynnal ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint dros y penwythnos – ardal lle mae yna “nifer sylweddol” o siaradwyr Cymraeg yn ôl Huw Marshall – ac mae’n cael ei hyrwyddo gan gyn-brif leisydd y grwp Catatonia.

Er bod Huw Marshall yn cydnabod bod grwpiau Cymraeg a rhywfaint o weithgareddau Cymraeg yn yr ŵyl, mae’n nodi ei bod hi’n “drueni” nad ydyn nhw’n hyrwyddo trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’n rhaid i bobol ddechrau sylweddoli bod yna werth masnachol i ddefnyddio’r Gymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Fod o ddim yn rhywbeth ddylwn ni fod yn gwneud dim ond allan o ddyletswydd … Dydy o ddim yn costio nesa’ peth i ddim i ddod â dwyieithrwydd i mewn i’w marchnata. Ac mae potensial yna i gynyddu eu hincwm nhw, yn hytrach nag bod o’n rhywbeth sydd yn costio pres.

“I fi mae’n gwneud synnwyr. Mae’r ŵyl yng Nghymru, mae prif wyneb yr ŵyl yn Gymraeg – iaith gyntaf. Mae’n drueni bod pobol fel hyn ddim yn gweld gwerth masnachol defnyddio’r Gymraeg i ddenu cynulleidfa o bosib fyddai ddim yn dod o reidrwydd.”

“Cheshire set

Mae Huw Marshall yn enedigol o ardal yr ŵyl ac yn credu bod The Good LifeExperience wedi bod yn ceisio apelio i bobol Sir Gaer yn hytrach na phobol leol.

“Mae’r ffocws o be dw i wedi gweld wedi bod ar Sir Gaer,” meddai. “Maen nhw’n trio apelio i’r Cheshire set.

“Rydych chi’n medru gweld os ydych chi’n edrych ar eu ffrwd drydar nhw, bod nhw’n dyfynnu pethau gan gynnwys [cylchgrawn] Cheshire Life … Mae o’n rhywle lle mae lot o arian a chyfoeth ac maen nhw’n targedu’r llefydd yna.”

“Mwy i’w wneud”

“Rydym yn gefnogol iawn o’r iaith Gymraeg ac yn deall yn iawn pam y byddai pobol yn [siomedig â’r ddarpariaeth Gymraeg]– ac rydym yn gweithio ar hyn,” meddai llefarydd ar ran The Good Life Experience.

“Eleni mae gennym ni feirdd Cymreig yn cymryd rhan, ac mae gennym ni wersi Cymraeg ar y maes. Rydym yn gwerthfawrogi bod mwy i’w wneud.”