Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg (Llun oddi ar ei gwefan)
Fe fydd £1.28m yn cael ei fuddsoddi ar ysgolion yng Nghymru er mwyn lleihau llwyth gwaith athrawon a staff.

Gyda’r buddsoddiad yma mi fydd rheolwyr busnes newydd yn cael eu penodi i ysgolion cynradd mewn 11 o awdurdodau lleol. 

Mae Powys, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ynys Môn a Chonwy ymysg yr awdurdodau fydd yn cael eu heffeithio gan y cynllun.

Bydd y rheolwyr busnes yma yn mynd i’r afael â gweithgareddau gweinyddol ac ariannol, gan ryddhau penaethiaid ac athrawon i ganolbwyntio ar ddysgu.

Y cynllun peilot yma yw ymgais diweddaraf Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon athrawon ynglŷn â’u llwythi gwaith.

 ‘Rhydd i ganolbwyntio’

“Bydd hyn yn rhyddhau’r penaethiaid a’r athrawon i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf – eu disgyblion,” meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r proffesiwn i helpu athrawon i fod cystal ag y gallan nhw fod, er lles y disgyblion. Dwi am inni wneud y pethau sylfaenol yn iawn a chaniatáu i athrawon fwrw ymlaen â’r gwaith addysgu fel y gallwn ni barhau i godi safonau.”

Cam positif ymlaen

“Mae cyhoeddiad yr adnoddau yma yn gam positif ymlaen, ac ond wedi bod yn bosib o ganlyniad i gyd-weithio,” meddai Swyddog Bolisi, Undeb Addysg Genedlaethol Cymru, Owen Hathaway.

“Mae’n amlygu’r ffaith bod pryderon am lwythi gwaith yn cael eu cydnabod, ac rydym yn gweithio o hyd i’w lleddfu … Os caiff ei weithredu’n iawn bydd y cam yma yn cael effaith amlwg ar lefel dosbarth.”