Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru y gallai ei chynlluniau i adeiladu coridor yr M4 ger Casnewydd fynd yn erbyn y ddeddf i wella llesiant pobol Cymru.

Mewn llythyr at yr ymchwiliad cyhoeddus sy’n edrych ar y cynllun, mae Sophie Howe yn dweud ei bod wedi cael gwybod am honiad “nad yw Llywodraeth Cymru wedi dehongli darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol [Cymru] 2015” wrth baratoi at y coridor newydd.

“Fel rhywun sy’n annibynnol o Lywodraeth Cymru, dw i’n methu gwneud sylw ar yr honiad hwnnw,” meddai Sophie Howe yn y llythyr.

“Fodd bynnag, dw i’n pryderu bod honiad o’r fath wedi codi a dw i’n teimlo bod dyletswydd arna’ i i sicrhau bod dyletswyddau’r Ddeddf yn cael eu gosod yn y ffordd gywir.

“Mae hyn, nid yn unig, am y gallai camddehongli a cham-ddilyn egwyddorion y Ddeddf arwain at gamddealltwriaeth ac amwysedd ar draws y rhannau hynny o sector cyhoeddus Cymru sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf.

“Gallai cam-ddilyn dyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol [Cymru] 2015 yn yr achos hwn osod esiampl anghywir a dw i’n awyddus i osgoi hynny.”

Y cefndir

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol dwy flynedd yn ôl er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Fel rhan o’r ddeddf eang, cafodd swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ei chreu sy’n sicrhau bod egwyddorion y ddeddfwriaeth yn cael eu gosod ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Yn gyn Ddirprwy Gomisiynydd dros Heddlu De Cymru a chyn gynghorydd Llafur, Sophie Howe cafodd ei phenodi i’r rôl sy’n talu £95,000.

Ym mis Chwefror eleni, fe feirniadodd Sophie Howe cynlluniau’r M4, sy’n werth £1.1 biliwn, gan ddweud ei fod yn “methu” â dangos sut y bydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol “a fydd yn cael y baich o dalu amdano.”

Mae disgwyl i’r ymchwiliad cyhoeddus i goridor yr M4 ail-ddechrau yn ar 19 Medi, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod disgwyl cwblhau’r prosiect erbyn 2021.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae sylwadau’r Comisiynydd yn cael eu croesawu i sicrhau bod yr Ymchwiliad Cyhoeddus yn craffu’n agored ac yn gadarn ar bu’n a yw’r Prosiect M4 yn ateb hirdymor a chynaliadwy i’r problemau sy’n gysylltiedig gyda’r M4 o gwmpas Casnewydd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae pob barn yn cael ei hystyried cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud y flwyddyn nesaf dros pa un ai i barhau â’r prosiect sylweddol hwn.”