Julian Ruck
Mae’n ymddangos bod un o westeion pennod ddadleuol o Newsnight, Julian Ruck, wedi cael ei wahardd o wefan Twitter.

Mewn neges ar gyfri Alun Saunders, mae’r actor wedi postio cyfres o ddelweddau sydd yn awgrymu bod yr awdur wedi ei wahardd.

Yn y ddelwedd gyntaf ceir screenshot o neges gan Twitter at Alun Saunders, yn sgil cwyn a wnaeth yn erbyn cyfri Julian Ruck.  

Gan gyfeirio at gyfri Julian Ruck ac un cyfri arall mae’r neges yn nodi: “Daeth ein hymchwiliad i’r casgliad bod y cyfrion yma yn groes i reolau Twitter.”

Yn yr ail ddelwedd gwelwn screenshot o gyfri Julian Ruck gyda’r neges “Nid yw’r cyfri yn bodoli”.

Mae golwg360 wedi gofyn i Alun Saunders a Julian Ruck am ymateb a chadarnhad.

Codi gwrychyn

Cododd Julian Ruck sawl gwrychyn yn ystod pennod o Newsnight ar Awst 9 lle bu’n trafod y cwestiwn “A ydi’r Gymraeg o help neu’n hindrans i’r genedl?”

Dyw achosi stŵr ar Twitter  ddim yn beth anghyffredin i’r awdur a nododd ar y wefan ar ddechrau’r mis bod “rhagwelediad plwyfol cefnogwyr yr iaith Gymraeg yn arswydus”.