Fe gwympodd cyfradd ddiweithdra Cymru i 4.3% rhwng mis Mai a Gorffennaf eleni, yn ôl ystadegau newydd.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau bu cwymp o 0.5% yn ystod y cyfnod yma, a bellach mae’r canran yng Nghymru’r un peth â lefel cyffredinol y Deyrnas Unedig.

O gymharu â’r tri mis blaenorol, Llundain yw’r rhanbarth Prydeinig lle bu’r cwymp ar ei fwyaf, gyda Chymru yn ail.

Er y cwymp yng nghyfradd diweithdra mae’r ganran o bobol yng Nghymru sydd mewn gwaith wedi disgyn gan 0.6% i 72.4%.

Cymru sydd gydag un o’r cyfraddau isaf ym Mhrydain o ran pobol mewn gwaith – dim ond Gogledd Iwerddon a gogledd ddwyrain Lloegr sydd yn is.