Mae Clwb Criced Caeriw yn Sir Benfro wedi cael eu cyhuddo o ddwyn anfri ar y gêm ar ôl iddyn nhw atal eu gwrthwynebwyr Creseli rhag ennill tlws Adran Gyntaf Clybiau Criced Sir Benfro yn ddiweddar.

Roedd Caeriw wedi cau eu batiad ar 18-1 ar ôl pymtheg o belenni yn unig, er mwyn atal Creseli rhag ennill pwyntiau bonws ar gyfer eu bowlio.

Roedd hynny’n golygu na fyddai gan Greseli ddigon o bwyntiau ar ddiwedd y gêm i godi uwchben eu gwrthwynebwyr, oedd â mantais eisoes o 21 o bwyntiau.

Pwyntiau bonws

Mae pwyntiau bonws ar gael i’r tîm sy’n bowlio am bob dwy wiced maen nhw’n eu cipio mewn batiad, ac un pwynt bonws i’r batwyr bob 40 rhediad maen nhw’n eu sgorio hyd at 200.

Dyw Caeriw ddim wedi torri rheolau’r gêm, ond maen nhw wedi cael eu cyhuddo o ymddwyn yn groes i ysbryd y gêm, a nifer o gricedwyr proffesiynol wedi ychwanegu eu lleisiau at yr alwad i’w cosbi nhw.

Yn dilyn yr helynt, dywedodd Clwb Criced Creseli eu bod nhw’n “siomedig” ynghylch ymddygiad Clwb Criced Caeriw.

Fe fydd Clwb Criced Caeriw a’u capten, Brian Hall yn wynebu panel disgyblu yng Nghlwb Criced Hwlffordd ar Fedi 26, ond mae lle i gredu na fydd ail-gynnal yr ornest ymhlith yr opsiynau fydd yn cael eu hystyried.

Datganiad gan benaethiaid y gynghrair

Mewn datganiad, mae Clwb Criced Sir Benfro, penaethiaid y gynghrair, yn dweud: “Derbyniodd Clwb Criced Sir Benfro nifer o gwynion ysgrifenedig ynghylch ymddygiad Clwb Criced Caeriw a’u capten Brian Hall yn dilyn eu gêm yn erbyn Creseli.

“Yn unol â’r gweithdrefnau sydd wedi’u hamlinellu yn llawlyfr y sir, fe ddaeth is-bwyllgor disgyblu ynghyd ddydd Llun, Medi 11.

“O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw, mae Caeriw wedi’u cyhuddo o ddwyn anfri ar y clwb criced sirol. Mae Mr Hall wedi’i gyhuddo o fethu yn ei ddyletswyddau fel capten i sicrhau bod y gêm wedi cael ei chynnal yn ysbryd criced.”

Dyw hi ddim yn glir eto beth fydd y gosb.