Alun Cairns (Llun: Gwefan Ysgrifennydd Cymru)
Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn ymweld â Qatar ddiwedd y mis er mwyn meithrin cysylltiadau busnes â’r wlad.

Yn ystod ei ymweliad, fe fydd e’n cyfarfod â phenaethiaid Qatar Airways a darpar-fuddsoddwyr eraill.

Daw manylion y daith ar y diwrnod pan ddaeth cyhoeddiad y bydd teithiau awyr rhwng Caerdydd a Doha yn dechrau ar Fai 1 y flwyddyn nesaf, a’r tocynnau’n mynd ar werth heddiw.

Enw da

Meddai Alun Cairns: “Mae enw da Qatar am hedfan yn rhagorol ac mae economi agored Prydain sy’n seiliedig ar fusnes yn amlwg wedi bod yn atyniad wrth i’r cwmni benderfynu lansio gwasanaeth o Gymru. 

“Bydd y llwybr newydd yn anfon neges bositif am Gymru allblyg yn datblygu cysylltiadau masnach ryngwladol a thwristiaeth gyda gweddill y byd.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld awyrennau ag arnyn nhw symbolau Qatar Airways yn gadael maes awyr ein prifddinas gwanwyn nesaf.”

Qatar

Qatar yw’r drydedd farchnad fwyaf o ran allforion o wledydd Prydain yn y Dwyrain Canol ac mae Llywodraeth Prydain yn buddsoddi £35bn yn y wlad ar hyn o bryd.

Yn ystod digwyddiad masnach yn Birmingham eleni, tynnodd Alun Cairns sylw at y cyfleoedd unigryw sydd ar gael i fusnesau o’r Dwyrain Canol fuddsoddi yng Nghymru.

“Mae Qatar yn un o bartneriaid masnachol pwysicaf y Deyrnas Unedig,” meddai Alun Cairns wedyn. “Mae’r cysylltiadau rhyngom eisoes yn gryf ond bydd yr ymweliad hwn, rwy’n sicr, yn rhoi’r cyfle i ni adeiladu ar y perthnasau hynny a’u cryfhau nhw.”