Mae disgwyl y bydd rhannau o Gymru yn wynebu gwyntoedd cryfion nos Fawrth (Medi 12) wrth i Storm Aileen daro gwledydd Prydain.

Bydd gwyntoedd cryfion rhwng 50 a 60 milltir yr awr yn taro rhai ardaloedd, meddai’r rhagolygon, ac fe fydd y storm ar ei gwaethaf yng ngogledd Cymru lle mae disgwyl y bydd gwyntoedd rhwng 65 a 75 milltir yr awr.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi bod rhybudd melyn mewn grym ar draws y wlad rhwng 8.00yh dydd Mawrth, hyd at 10.00yb ddydd Mercher (Medi 13).

Dylai teithwyr ddisgwyl teithiau hirach ar ffyrdd a rheilffyrdd wrth i ddefnydd o ffyrdd a phontydd gael eu cyfyngu.

Mae’n bosib fydd yna doriadau pŵer, difrod i goed a difrod i adeiladau o bosib. Dylai pobol hefyd fod yn wyliadwrus o donau uchel.