Llun: PA
Mae angen gwneud mwy i wella gwasanaethau mewn practisau deintyddol yng Nghymru, yn ôl corff craffu annibynnol.

Daw galw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn eu hadroddiad blynyddol – adroddiad sydd yn crynhoi canfyddiadau 80 arolygiad rhwng 2016 a 2017.

Yn ôl y corff mae’r canfyddiadau yn “gadarnhaol ar y cyfan” ond mae yna “amrediad o welliannau sydd eu hangen o hyd” mewn practisau deintyddol y wlad.

Maen nhw hefyd yn nodi bod yn rhaid i wasanaethau, byrddau iechyd lleol a chyrff cynghori “wneud rhagor” i ddysgu o argymhellion yr AGIC.

“Angen gwneud mwy”

“Mae ein hadroddiad yn dangos bod cleifion ar y cyfan yn hapus gyda’r gofal a’r driniaeth ddeintyddol a ddarperir ar eu cyfer,” meddai Prif Weithredwr AGIC, Dr Kate Chamberlain.

“Mae angen i’r rhan fwyaf o’r practisau, fodd bynnag, wneud mwy i annog cleifion i roi adborth, ac mae angen i lawer o bractisau wella’r ffordd mae cofnodion staff, a’r tîm deintyddol yn ei gyfanrwydd, yn cael eu rheoli.”

“Mae’n bwysig bod pawb sy’n gysylltiedig ag ymarfer deintyddol cyffredinol, gan gynnwys byrddau iechyd lleol, yn dysgu o ganfyddiadau’r adroddiad hwn a chanolbwyntio ar y meysydd sydd angen eu gwella.”