Darn o waith celf Anna Boghiguian sydd ar restr fer Artes Mundi (Llun: Artes Mundi)
Mae rhestr fer ar gyfer gwobr gelfyddydol Gymreig, Artes Mundi, wedi cael ei chyhoeddi.

Mae’r artistiaid wedi’u dewis o blith 450 o enwebiadau ac yn dod o amryw o wledydd  gan gynnwys Gwlad Thai a Moroco.

Dyma fydd yr wythfed wobr i gael ei dyfarnu ac mae’n dilyn Artes Mundi 7 a gafodd ei gynnal yn gynharach eleni, lle’r oedd John Akomfrah yn fuddugol.

Y pum artist ar y rhestr fer yw, Anna Boghiguian, Bouchra Khalili, Otobong Nkanga, Trevor Paglen ac Apichatpong Weerasethakul.

“Gwthio ffiniau”

“Mae’r gwaith artistig mwyaf grymus a chyfoethog yn ein galluogi i weld y byd a’n lle yn y byd o bersbectif newydd,” meddai un o’r detholwyr, Nick Aikens.

“Mae pob un o’r pum artist a ddaeth i’r rhestr fer wedi gwneud hyn yn gyson trwy wthio ffiniau’r amrywiol gyfryngau y maen nhw’n gweithio o’u mewn.”

Cystadlu

Bydd y pum artist yn cymryd rhan mewn arddangosfa fawr a fydd yn cael ei chynnal rhwng Hydref 27 2018 a Chwefror 24 2019 yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd.

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £40,000 ac yn cael ei gyhoeddi yn Ionawr 2019.