Hunlun y mwnci (Llun - David Slater © / Caters News Agency Ltd)
Mae ffotograffydd o Sir Fynwy wedi ennill achos cyfreithiol dros hawlfraint llun gafodd ei dynnu gan fwnci yn Indonesia.

Yn 2011, llwyddodd mwnci o’r enw Naruto i dynnu ei hunlun ei hun ar gamera David Slate sy’n byw erbyn hyn yng Nghas-gwent.

Yn ôl grŵp ymgyrchu PETA (People for the Ethical Treatment of Animals) dylai’r mwnci fod wedi elwa o’r llun ym meddiant y ffotograffydd.

Ond daeth barnwyr yn yr Unol Daleithiau i’r casgliad nad oedd modd rhoi hawliau hawlfraint i’r mwnci, ac mae David Slater wedi cytuno i roi £25 o elw’r llun yn y dyfodol at elusennau sy’n gwarchod mwncïod macacos tebyg i ‘Naruto’.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Peta a David Slater eu bod yn “cytuno fod yr achos hwn yn codi materion pwysig sy’n torri tir o ran ehangu hawliau cyfreithiol anifeiliaid” a’u bod yn cefnogi gwarchod hawliau anifeiliaid.