Tyler Denton (Llun: Heddlu'r Gogledd)
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi enw dynes a fu farw mewn digwyddiad yn y Rhyl nos Sadwrn.
Roedd Tyler Denton, 25 oed, yn dod o’r dref.
Yn y cyfamser mae’r heddlu wedi cael rhagor o amser i holi dyn 21 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn ardal Llys Aderyn Du, Y Rhyl nos Sadwrn, 9 Medi.
Cafodd nifer o bobl eraill eu hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.
Dywedodd Neil Harrison, Ditectif Prif Arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru bod yr ymchwiliad yn parhau a bod rhagor o gyfweliadau yn cael eu cynnal prynhawn ma.
Fe fydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal meddai, gyda rhagor o ymholiadau’n cael eu cynnal ar y safle.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd teulu Tyler Denton ei bod yn “ferch hyfryd, chwaer a modryb gariadus a ffrind hyfryd i bawb. Bydd colled enfawr ar ei hol.”
Maen nhw’n cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.
Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod RC17138247 neu drwy Daclo’r Taclau ar 0800 555 111.