Derwen Brimmon yn y Drenewydd a gafodd ei dewis i gynrychioli gwledydd Prydain y llynedd
Mae aelodau’r cyhoedd wedi cael eu hannog i bleidleisio am eu hoff goeden, wrth i restrau byr cystadleuaeth flynyddol Coeden y Flwyddyn, gael eu cyhoeddi.

Mae 28 coeden yng ngwledydd Prydain wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr fer  gan gynnwys chwe choeden o Gymru.

O blith y coed yma mi fydd coeden yn cael ei ddewis i gynrychioli gwledydd Prydain yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn 2018.

Y llynedd, cafodd Derwen Brimmon yn y Drenewydd ei dewis i gynrychioli gwledydd Prydain, a llwyddodd i ddod yn ail yn y gystadleuaeth â dros 1,600 pleidlais.

Dyma’r canlyniad gorau hyd yma, ar gyfer unrhyw goeden o’r Deyrnas Unedig.

Coed yn “bwysig”

“Unwaith eto, mae’r cyhoedd wedi enwebu sawl coeden ffantastig â straeon ysbrydoledig, sydd yn amlygu pa mor bwysig mae coed ym mywydau pobol,” meddai Prif Weithredwr Coed Cadw, Beccy Speight.

“Mae hyn yn ein hatgoffa ni ynglŷn â pham bod angen i ni ofalu am goed unigol, a bod o hyd angen eu diogelu yng nghyfraith gwlad rhag datblygiadau a chamreolaeth.”

Yr enwebiadau o Gymru

  • Coeden Tŷ’r Tylwyth Teg, Llansadwrn, Ynys Môn
  • Y Goeden Wag, Castell-Nedd Port Talbot
  • Yr Ywen Waedlyd, Nanhyfer, Sir Benfro
  • Ywen y Pwlpit, Nantglyn, Sir Ddinbych
  • Coeden Goch Anferthol, Llangatwg, Powys
  • Coeden Goch Arfordir Bodnant, Conwy