Llun: PA
Mae Cyngor Sir Powys wedi lansio siartr iaith i annog ysgolion cynradd i hybu’r defnydd o Gymraeg y “tu allan i’r ystafell ddosbarth.”

Fe fydd y Siartr Iaith Gymraeg yn cael ei hanelu at ysgolion a ffrydiau cynradd cyfrwng Cymraeg yn y sir.

Mae’n dilyn cynllun tebyg gafodd ei sefydlu’r llynedd ar gyfer ysgolion sy’n dysgu Cymraeg ail iaith, sef ‘Cymraeg Campus.’

Yn rhan o’r siartr bydd ysgolion yn cael gwobrau efydd, arian ac aur yn ddibynnol ar y cyfleoedd y maen nhw’n eu cynnig i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.

Iaith ‘yn fyw a pherthnasol’

Wrth gyfeirio at darged Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 dywedodd Myfanwy Alexander, Cynghorydd ardal Banwy ei bod eisiau i ddisgyblion “ddeall bod yr iaith Gymraeg yn fyw ac yn berthnasol i’w bywydau bob dydd, yn ogystal â bod yn iaith eu haddysg.”

“Daw disgyblion ym Mhowys o amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol,” meddai.

“Er mwyn i’r iaith Gymraeg ffynnu a thyfu, rhaid i ni sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael amrywiaeth o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith mewn nifer o gyd-destunau cymdeithasol. Bydd cyflwyno’r Siartr Iaith Gymraeg yn ein helpu i gyflawni hyn.”

Cyfeiriodd at fudiadau’r Urdd, Mudiad Meithrin Menter Maldwyn a Brycheiniog sydd eisoes yn gwneud o hybu’r Gymraeg yn gymdeithasol.