Lled-ddargludyddion (Llun: Prifysgol Caerdydd)
Mae disgwyl i gwmni technoleg arloesol, lled-ddargludyddion, sefydlu yng Nghasnewydd yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn dechnoleg ar gyfer y sector moduron, iechyd a diogelwch, ffonau smart 5G a cherbydau awtomatig ac yn cael eu datblygu gan y cwmni IQE.

Mae’r cytundeb gwerth £38 miliwn yn rhan o Fargen Ddinesig Caerdydd sy’n cynnwys 10 awdurdod lleol, sef Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent , Torfaen a Chasnewydd.

Y gobaith yw y bydd yn denu £375miliwn o fuddsoddiad i’r sector preifat a chreu hyd at 2,000 o swyddi â sgiliau yn y clwstwr cyflenwi ehangach – gyda chraidd y cwmni yng Nghasnewydd.

Ehangu 

“Mae’n galonogol iawn bod buddsoddiad cychwynnol Llywodraeth Cymru o £12 miliwn i ddatblygu’r clwstwr yn ôl yn 2015 wedi bod yn gatalydd ar gyfer cyhoeddiad heddiw bod IQE yn bwriadu ehangu i gyfleusterau newydd y Fargen Ddinesig,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.

“Gyda chlwstwr lled-ddargludo cyfansawdd cyntaf y byd wedi’i leoli yma yn ne-ddwyrain Cymru, rydym yn gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl wrth ddatblygu technoleg sydd nid yn unig yn chwarae rhan fwyfwy pwysig yn y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau heddiw, ond bydd yn sbarduno arloesedd fydd yn llywio’r byd yr ydym yn byw  ynddo yfory,” ychwanegodd.