Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae dyn 21 oed yn parhau i gael ei holi heddiw ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio yn ardal y Rhyl dros y penwythnos.

Cafodd un ddynes ei lladd a nifer eu hanafu yn dilyn digwyddiad yn ardal Llys Aderyn Du yn y dref nos Sadwrn, Medi 9.

“Mae dyn yn parhau yn nalfa’r heddlu ac yn cael ei holi a gallwn gadarnhau nad ydym yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad hwn,” meddai Neil Harison, Ditectif Prif Arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig lle mae un ddynes ifanc yn anffodus wedi colli ei bywyd a nifer o bobol eraill wedi derbyn anafiadau difrifol.”

Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod RC17138247 neu drwy Daclo’r Taclau ar 0800 555 111.