Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth yn Y Rhyl ar ôl i ddynes farw yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad neithiwr.

Cawson nhw eu galw i Lys Aderyn Du toc cyn canol nos yn dilyn adroddiadau o ffrwgwd.

Cafwyd hyd i bedwar o bobol wedi’u hanafu, ac fe gawson nhw eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd.

Ond bu farw’r ddynes yn ddiweddarach.

Mae dyn 21 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio, a dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.