Mae dyn wedi cael ei arestio yn Y Rhyl yn dilyn ffrwgwd.

Cafodd nifer o bobol eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Llys Aderyn Du toc cyn canol nos neithiwr, ac maen nhw’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad, ac maen nhw wedi apelio am wybodaeth.