Y cyn-newyddiadurwr Martin Huws o Ffynnon Tâf sydd wedi ennill Cadair Gŵyl y Gadair Ddu ym Mhenbedw.

Cafodd y seremoni gadeirio ei chynnal yn Ysgol Joseph Paxton heddiw.

Cafodd y Gadair ei chomisiynu gan Gymeithasau Cymraeg Penbedw a Fflandrys, sy’n trefnu’r digwyddiad, ac mae hi wedi ei chreu o hen drawstiau rheilffordd yng Ngwlad Belg

Y testun ar gyfer yr Awdl oedd ‘Hedd Wyn’, ac roedd y seremoni yng ngofal yr Archdderwydd Geraint Llifon, neu Geraint Lloyd Owen.

Hanes y Gadair Ddu

Enillodd Hedd Wyn, enw barddol Ellis Humphrey Evans, gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917 am ei awdl ‘Yr Arwr’.

Ond ar ddydd Iau, 6 Medi 1917, cyhoeddodd T. Gwynn Jones i’r dorf ym Mhafiliwn yr Eisteddfod bod Hedd Wyn wedi cael ei ladd chwe wythnos ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddodd yr Archdderwydd ei fod wedi’i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu.

Gwnaed y gadair gan ffoadur o’r enw Eugeen Vanfleteren o Wlad Belg.

Daethpwyd a’r gadair yn ôl i Drawsfynydd ar y trên ar 13 Medi, 1917 a chludwyd hi i’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, ar gart a cheffyl.