Mae atyniad Profiad Doctor Who yng Nghaerdydd yn cau ei ddrysau am y tro olaf heddiw.

Fe gafodd ei symud o Lundain i stiwdios Porth Teigr yn 2012 a’r bwriad o’r dechrau oedd ei gadw ar agor am bum mlynedd yn unig.

Serch hynny, roedd deisebau i’w gadw ar agor wedi denu degau o filoedd o lofnodion.

Roedd cefnogwyr yn dadlau bod yr atyniad yn denu twristiaid ac incwm i’r brifddinas, lle mae’r gyfres bellach yn cael ei ffilmio.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Caerdydd ddechrau’r flwyddyn fod safle’r atyniad yn eiddo i Lywodraeth Cymru a’r partner datblygu, Igloo Regeneration.

Mae’r Doctor presennol, Peter Capaldi yn rhoi’r gorau iddi adeg y Nadolig eleni, a Jodie Whittaker eisoes wedi cael ei chadarnhau yn y rôl.