Mae’r dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym maes awyr Caernarfon wedi cael ei enwi’n lleol.

Mae lle i gredu mai’r dyn busnes 62 oed o Sir Gaer, John Backhouse oedd wrth lyw’r awyren pan blymiodd i’r ddaear.

Yn ôl adroddiadau’r wasg leol, fe adawodd e faes awyr preifat yn Sir Gaer tua 45 munud cyn y gwrthdrawiad, ac roedd disgwyl iddo fe hedfan i Ddulyn.

Mae ymchwiliad i’r gwrthdrawiad yn Ninas Dinlle ddydd Mercher ar y gweill.