Matt Jukes fydd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru o fis Ionawr ymlaen, ar ôl i Banel Heddlu a Throseddu De Cymru gadarnhau penderfyniad y Comisiynydd, Alun Michael i’w benodi.

Bydd y Dirprwy Brif Gwnstabl yn llenwi rôl Peter Vaughan pan fydd yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn.

“Penderfynu pwy fydd yn arwain Heddlu De Cymru dros y blynyddoedd nesa’, yn dilyn ymddeoliad Peter Vaughan, siŵr o fod, yw’r penderfyniad unigol pwysicaf y bydda’ i’n ei wneud fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu,” meddai Alun Michael.

Dywed y bydd y dyfodol yn “anodd ac yn heriol” a bod angen arweinydd cryf i fynd â Heddlu De Cymru i “lefel newydd.”

“Rydw i’n sicr ac yn hyderus mai Matt Jukes yw’r person cywir – mae e’n arweinydd ardderchog gyda gonestrwydd, personoliaeth, dealltwriaeth, sgiliau ac ymrwymiad personol i dde Cymru a’i phobol.”

Roedd y broses penodi yn cynnwys pedwar panel arbenigol unigol oedd yn holi ymgeiswyr ar foeseg yr heddlu, rheoli arian, gweithio gyda’r sector cyhoeddus a’r system gyfiawnder.