Mae cangen Gymreig Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA Cymru) wedi dweud eu bod yn “awyddus” i barhau i drafod cynlluniau i sefydlu Campws Meddygol yng ngogledd Cymru.

Daw hyn er gwaetha’r cadarnhad ym mis Gorffennaf gan Lywodraeth Cymru, na fydd Ysgol Feddygol yn cael ei sefydlu yn yr ardal. 

Daw’r sylw gan y BMA wedi i Blaid Cymru awgrymu y gallai partneriaeth gael ei ffurfio rhwng Prifysgol Bangor ac ysgolion meddygol Caerdydd ac Abertawe.

 Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y gallai cydweithio rhwng sefydliadau addysgiadol wella’r ddarpariaeth feddygol yn y gogledd.

“Awyddus”

 “Hoffwn weld rhagor o fyfyrwyr a doctoriaid dan hyfforddiant yn cael y profiad o drin cleifion yng ngogledd Cymru, fel eu bod yn profi’r buddion sydd yn dod â’r fath yrfa,” meddai Cadeirydd Cyngor Cymreig BMA, Dr David Bailey.

“Bydd angen trafodaeth ehangach er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau o gyflawni hyn ac mae angen ystyried yr ochr ymarferol, gan gynnwys ariannu a chydweithio rhwng campysau meddygol. Mae BMA Cymru yn awyddus i barhau i fod yn rhan o’r trafodaethau.”

Cynllun Plaid

Yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, byddai campws ar y cyd yn helpu datrys y trafferthion recriwtio doctoriaid yng ngogledd Cymru.

Ar hyn o bryd mae myfyrwyr meddygaeth ond yn medru hyfforddi yn y gogledd tra bod nhw ar leoliad. Byddai’r cynllun yma yn eu galluogi i astudio’n llawn-amser ym Mangor.