Y Cynghorydd Vicky Perfect
Gwnaeth pobol “orymateb” i gynlluniau i godi cerflun gwerth
£395,000 ger Castell y Fflint, yn clodfori concwest Cymru. 

Dyna safbwynt un o gynghorwyr Sir y Fflint, Vicky Perfect, yn sgîl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddoe bod y syniad o greu ‘Cylch Haearn’ wedi’i gladdu.

Roedd y cylch wedi’i enwi ar ôl cyfres o gestyll a gafodd eu hadeiladu gan y brenin Edward y Cyntaf i ormesu’r Cymry,  ond bu’n rhaid gohirio’r cynllun i’w greu ym mis Gorffennaf yn sgil ymateb y cyhoedd.

Yn ôl y Cynghorydd Vicky Perfect nid oedd y mwyafrif o bobol wnaeth gwyno am y cynlluniau erioed wedi bod i’r Fflint, ac “nid yw’n iawn” bod eu hymateb wedi dod â’r prosiect i ben.

 “Gwnaeth pobol orymateb yn llwyr,” meddai Vicky Perfect wrth golwg360. “Dydych chi methu newid hanes.

“Mae’n drist bod rhai pobol wedi penderfynu lleisio eu barn ar rywbeth roedden ni’n mynd i gael yn y Fflint. A’r peth tristaf yw bod 90% ohonyn nhw erioed wedi bod i’r Fflint. Erioed wedi bod i’r castell.

“Roedd pobol yn y Fflint a phobol leol oedd yn byw ger y castell, eisiau’r cerflun. Ac mi wnaeth pobol o dde Cymru, sydd byth yn dod i’r Fflint, benderfynu lleisio barn. Nid yw’n iawn fod eu barn nhw wedi difetha’n gobeithion yn y Fflint.”

Torch Geltaidd

Mae Vicky Perfect wedi helpu i ofalu am Gastell y Fflint ers 35 mlynedd, ac yn mynnu nad oedd y Cylch Haearn yn “sarhad” ar bobol Cymru.

“Dw i’n siomedig ein bod ni ddim yn mynd i gael y Cylch,” meddai.  “Dw i ddim yn meddwl ei fod yn sarhad ar y Cymry, oherwydd digwyddodd [y goncwest] 740 blynedd yn ôl.

“Dw i’n Gymraes. Cefais fy ngeni a fy magu yng Nghymru. A dw i ddim yn teimlo unrhyw sarhad.”

Gobaith y cynghorydd yw y bydd y cerflun yn cael ei ail ddylunio a’i ailgyflwyno fel “torch Geltaidd” fydd yn “cwmpasu pob math o gysyniadau a hanesion yn gysylltiedig â Chymru”.