Hwyl yr ŵyl.
Gyda disgwyl i gannoedd o Gymry Cymraeg heidio i Bortmeirion yng Ngwynedd tros y penwythnos, mae trefnwyr Gŵyl Rhif 6 wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg nad ydyn nhw yn medru darparu cynnwys Cymraeg ar eu gwefan.
Mae’r ŵyl yn cael £5,000 gan Gyngor Gwynedd at y gost o roi llwyfan i fandiau lleol, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y cyngor sir i roi pwysau ar y trefnwyr i ddarparu gwefan ddwyieithog.
“Mae hi’n syndod nad oes unrhyw Gymraeg ar eu gwefan, a chymaint o Gymry Cymraeg yn mynychu’r ŵyl,” meddai Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Menna Machreth.
“Byddai hi’n dda petai Cyngor Gwynedd yn rhoi rhyw amod fod rhaid i bopeth ynglŷn â’r ŵyl fod yn ddwyieithog y flwyddyn nesa’.”
Y farn leol
Mae un o’r trigolion lleol yn cytuno fod angen i’r ŵyl arddel y Gymraeg ar eu gwefan.
“Erbyn hyn mi ddylai’r egwyddor fod wedi ei hen sefydlu bod unrhyw ddigwyddiad yn yr ardal yma yn hysbysebu’n ddwyieithog – ar eu gwefan neu ar bosteri,” meddai Arthur Thomas o Borthmadog wrth gylchgrawn Golwg.
“Waeth iddyn nhw heb â son am gael bandiau Cymraeg os ydi’r awyrgylch yn Saesneg ac ar eu gwefan – does dim pwynt iddyn nhw frolio hynny. Hyd y gwela i, mae eu pethau nhw wedi bod yn ddwyieithog ym Mhortmeirion. Ond dydi o ddim yn esgus i’r cwmni beidio â gwneud y wefan yn ddwyieithog.”
“Dim adnoddau” medd y trefnwyr
“Oherwydd bod cymaint o newidiadau ac ychwanegiadau i’n gwefan, yn anffodus nid oes ganddo ni’r adnoddau i reoli tudalen iaith Gymraeg ar hyn o bryd, ond mae yn rhywbeth yr ydym yn awyddus i edrych arno yn y dyfodol,” meddai llefarydd yr ŵyl.
Mae’r trefnwyr yn awyddus i bwysleisio’r pethau y maen nhw’n eu gwneud i gefnogi’r Gymraeg.
“Mae hyn yn cynnwys sesiynau ymwybyddiaeth am y Gymraeg a gwersi Cymraeg drwy gydol y penwythnos i’r gwesteion; ymadroddion cyfarwydd Cymraeg yn rhaglen yr ŵyl i annog gwesteion Saesneg i glosio at yr iaith; sticeri punt Cymraeg ar gyfer yr holl gynnyrch a’r stondinau; a phartneriaethau gyda hyrwyddwyr lleol i greu llwyfannau a chyfleoedd i ddoniau Cymreig…
“R’yn ni wastad yn ceisio gwella Gŵyl Rhif 6 a phrofiad ein gwesteion a byddwn ni’n parhau i chwilio am ffyrdd ymarferol i gyflwyno’r iaith Gymraeg i mewn i’n dulliau cyfathrebu.”
Ymateb Cyngor Gwynedd
“Nid yw deddfwriaeth trwyddedu cenedlaethol yn caniatáu i gynghorau gynnwys amod iaith fel rhan o drwydded safle – sef y drwydded sydd wedi ei rhoi i Ŵyl Rhif 6 er mwyn cynnal yr ŵyl,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.
Mwy am y mater a dwy stori arall am Ŵyl Rhif 6 yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg:
– gwersi cynganeddu Gruffudd Antur ac Elis Dafydd ym Mhortmeirion;
– hanes fersiwn newydd Côr y Brythoniaid o’r gân ‘Chwarae dy gêm’ gan Anweledig.