Ffair Arfau yng Nghaerdydd.
Mae dros hanner pobol Cymru yn gwrthwynebu’r ffaith bod Llywodraeth Prydain yn caniatáu gwerthu arfau i Saudi Arabia, yn ôl arolwg newydd.
Ac mae mudiad Achub y Plant yng Nghymru yn dweud bod arfau yn cael eu defnyddio i ladd plant.
Yn ôl y pôl piniwn YouGov ar ran sefydliad Achub y Plant, mae 55% o bobol Cymru yn gwrthwynebu gwerthiant arfau i wledydd sy’n rhan o ryfel Yemen.
Gwnaeth yr arolwg hefyd ddarganfod mai dim ond 6% sy’n cefnogi polisi Llywodraeth Prydain ac am weld gwerthiant yn aros ar ei lefel presennol.
Ymunodd cynghrair o wledydd, dan arweiniad Saudi Arabia, â’r gwrthdaro ym mis Mawrth 2015, gan dargedu gwrthryfelwyr Shiaidd y wlad.
Ers hynny mae Llywodraeth Prydain wedi cymeradwyo gwerthu £3.8 biliwn o arfau i Saudi Arabia.
“Cysgod tywyll”
“Mae hi’n glir bod y cyhoedd yn credu bod arfau sy’n cael eu hadeiladu ar Ynysoedd Prydain yn taflu cysgod tywyll dros ein statws yn y byd,” meddai Pennaeth dros dro Achub y Plant yng Nghymru, Louise Davies.
“Mae lle gan y Deyrnas Unedig i ymfalchïo – ni yw un o’r rhoddwyr cymorth mwyaf i’r Yemen. Ond mae ein bomiau hefyd yn cael eu danfon i wledydd sydd yn lladd plant Yemeni, yn bomio ysgolion ac ysbytai ac yn atal mynediad i gymorth.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Prydain.