Huw Jones (llun o wefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru www.hanesplaidcymru.org)
Fe fu farw’r Parchedig Huw Jones, Y Bala, un o’r ola’ o do talentog o bregethwyr a diddanwyr o Brifysgol Bangor yn yr 1940au.

Roedd ‘Huw Bach’ yn un o’r criw a fu’n cynnal rhaglenni arloesol Noson Lawen y BBC gyda myfyrwyr eraill fel Triawd y Coleg a’r cynhyrchydd, Sam Jones.

Roedd Huw Jones yn cymryd rhan mewn sgetsys ar y rhaglenni ac, yn ddiweddarach, fe ddaeth yn un o arweinwyr mwya’ amlwg yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ymhlith y myfyrwyr yn yr un cyfnod ag ef, roedd Meredydd Evans, Robin Williams a’r nofelydd Islwyn Ffowc Elis, un o’i ffrindiau mawr.

Ar ôl bod yn weinidog ym Mhenygroes a’r Drenewydd, fe ddechreuodd ar gyfnod hir yn weinidog ar gapel enwog Capel Tegid y Bala, o ddechrau’r 1960au.

Dyn y wlad a chenedlaetholwr

Roedd wedi bod yn was ffarm cyn mynd i’r brifysgol ac, yn ddiweddarach, fe olygodd gyfrolau o eiriau Cymraeg y diwydiant.

Roedd hefyd yn genedlaetholwr amlwg ac fe gofnododd rai o’i atgofion am ei ddyddiau cynnar gyda rhai o ymgyrchoedd Plaid Cymru ar wefan cymdeithas hanes y blaid.

Roedd yr atgofion hynny’n cynnwys helpu trefnu cyrch i dynnu arwyddion.

Roedd Huw Jones yn 97 oed.