Maes awyr Caernarfon (dim hawlfraint)
Mae’r ymchwilio’n parhau i ddysgu pam y cwympodd awyren fechan i’r ddaear ym maes awyr Caernarfon gan ladd y peilot.

Bellach, mae teulu’r dyn wedi cael clywed am ei farwolaeth echnos, ond dyw ei enw ddim wedi ei gyhoeddi.

Yn ôl llygad dystion, roedd yr awyren fechan wedi cael ei gweld yn nesu at y maes awyr yn gymharol gyflym a heb i’r offer glanio fod ar waith.

Roedd hynny tua hanner awr wedi chwech nos Fercher, hanner awr ar ôl i’r maes awyr gau am y dydd.

Yng Nghaernarfon, mae angen trefnu codi a glanio ac mae’n ymddangos nad oedd unrhyw drefniant wedi ei wneud yn yr achos yma.